Uncategorized

Sut wnes i ddarganfod sut i bwyta yn hapus.

Yng ngoleg, ac yna yn brifysgol, nid oedd perthynas da gyda fi ‘da bwyd a bwyta. Roeddwn yn wirioneddol yn obsessed gyda fod yn denau, ac cyfri caloriau. Roeddwn yn cadw nodyn o bob un peth oeddwn yn bwyta. Diw e ddim yn dod fel sypreis i glywed nid oedd fy amser yn brifysgol yn un positif iawn – o gwbwl! Fe es i yn depressed ar un adeg, oherwydd nid oeddwn yn gallu colli pwysau am un rheswm. Fe wnes i byth feddwl dylse ni trio edrych ar ol fy hun, yn cynnwys fy iechyd meddyliol! Na, wnaeth y meddyliad ‘na byth dod i’r arwyneb. Be wnes i yn lle oedd dechrau bwyta bwydydd amrwd, a bwydydd amrwd yn unig! Bach yn extreme, rwy’n siwr wnewch chi cytuno. Wnaeth hwn ddim llawer am fy iechyd meddyliol, ond fe wnes i deimlo yn hapus fy mod i yn rhoi bwydydd mor dda yn fy ngorff. Am oedd y deiet yna yn glan iawn, heb siwgr prosessed neu bara ac pethau fel ati, fe daeth fy ngorff i deimlo yn iach iawn, ac naturiol fe golles i bwysau. Ond oedd e’n anodd i stopio. Es i lawr i fy pwysau lleia, ond am oeddwn yn bwyta sut cymaint o ffrwythau roeddwn wastad ar ‘blood sugar rollercoaster’ ac oherwydd roeddwn yn meddwl bod y bwydydd mor naturiol, oedd dim ots os bydde ni yn bwyta nhw trwy’r dydd. Ac dyna fe wnes i. Ond am gost. Fe golles i’r enamel oddi ar fy nhanedd.

Oedd rhaid newid. Oedd bwyta fel yna ddim yn hawdd, ac os oeddwn yn bwyta bwydydd arall (dim amrwd) oeddwn ddim yn sicr SUT i deimlo!

Ond diolch byth, tuag at yr un adeg, fe darganfodes i myfyrio a ioga. Oeddwn yn perthynas anodd ar y pryd fyd, ac es i i weld seicotherapist i gweithio trwyddo’r problemau yn y perthynas.

Ond beth wnaeth y tri peth yna i mi – y myfyrio, ioga a therapi – oedd i ddangos i fi pwy yr oeddwn. Ac sut i dderbyn y person yna.

Wnaeth y gwaith cymryd sawl blwyddyn, ond wedyn, yn araf fach, oeddwn yn dechre teimlo yn hapus o ddydd i ddydd. Fe wneis i ddarllen pobeth ag allwn ynglun a gorbwyta, caethniwedion (addictions) a hunan-derbyniaeth. Fe wir wnes i weithio yn drylwyr i ddod mewn i berthynas hapus gyda fy hun. Wnes i gorffen y perthynas oeddwn ynddo, ac wrth fy hun, oeddwn yn gorfodi fy hun mynd allan i’r byd (ble, yn y gorfennol oeddwn llawer rhy self-conscious).

Fe wnes i gwneud fy hun i ailadrodd ‘affirmations positif i fy hun’ fel, ‘Rwy’n derbyn fy hun’ ‘Mae gen i ffydd yn fy hun’, ac ati. Fe wnes i gadw dyddiadur gyda bethau oeddwn yn ddiolchgar am – gratitude journal yn lle food log.

Roeddwn wir yn dod yn hapus! Ac pan yn America blynyddau yn ol, fe wnes i gwneud y cam olaf i ddod mewn i balans llawn gyda bwyta.

Fe wnes i rhoi cantiataid i fy hun i fwyta beth bynnag yr oeddwn eisiau. Dim euogrwydd. Dim cyfri caloriau; yr wir, UNRHYW BETH! Oherwydd oeddwn yn gwlad arall, nid oeddwn eisiau rhoi limit i fy hun. Ond yn fwy na hynny, oeddwn yn gwybod yn fy esgyrn roedd neud hwn yn cam enfawr, ond hynnod o bwysig i fi.

Ac wyddoch chi be digwyddodd? Wel, rhoies i lot o bwysau arno! Ond yr oeddwn yn gwybod, oherwydd y gwaith oeddwn wedi gwneud i dderbyn fy hun, oedd hwn yn cam oedd RHAID i mi gymryd. Oeddwn yn sicr bod rhoi caniataid i fi i bwyta unrhyw beth, ar ol blynyddoedd o control, rules a deiets, yn peth a fydd yn newid pobeth. Roeddwn yn rili yn brofi, am unwaith ac am byth, fy mod ‘da hyder yn fy hun! Roedd hwn yn beth anhygoel. I gael ffydd yn fy hun ar ol blynyddoedd o bod yn gas tuag at fy hun. Yr oeddwn yn gwybod oedd gwneud y beth od yma yn mynd i rhoi lot FWY o ffydd i fi.

Felly fe bwytais pumpkin pie (mmm!), bara, bara a fwy o bara (wel, oeddwn yn gweithio yn pobpty organic yn Vermont ar y pryd!) a llawn dop o peanut butter ‘fyd. Bwytais lot o bethau blasus, fel rhywbeth or enw ‘malts’, sef diod a hufen ia ynddo! Ie, fel alwch gweld, es i amdano fe cant y chant!

Oedd rhaid i fi benthyg dillad arall am oeddwn wedi burstio allan o ddillad fy hun gyda fy ‘bola bara’ newydd. Ac y dillad fe gefais oedd hen dillad maternity fy ffrind! Ond wnaeth hwnna ddim stopio fi. Des I nol gartef gyda bola odd iawn, oedd e fel toes. Ond er oedd panic bach yn dechrau digwydd tu-fewn, wnes I dal at y syniad gryf yma tu-fewn bod e’n holl bwysig I fi I DDIM rhoi control nol arno beth oeddwn yn bwyta. Felly fe caries I ‘mlaen. Ac yn amser, roedd pethau eithaf amazing yn digwydd. I fi, oedd y pethau oedd yn digwydd yn hudolus! Ar ol byw bywyd o deimlo oedd byth digon o bwyd allan yn y byd I fi, oeddwn yn dechrau dweud ‘na, fi’n llawn’ ac yn teimlo yn absolutley yn iawn dweud ny. Oeddwn yn naturiol yn dweud na I bara achos o ni rili yn teimlo oeddwn wedi gael digon. Heb sylwi, ac yn mwynhau teilmad bod perthynas well yn digwydd gyda fi gyda bwyd, daeth y pwysau I ffwrdd. Fe wnes I astudio cwrs Maeth a iechyd. Yr oeddwn yn cadw arno myfyrio ac yn gwneud ioga, ond oedd dim angen therapi arnaf ers sbel. Oedd ioga yn holl bwysig I fi deimlo yn cydbwysedd gyda fy hun. Oeddwn wedi datblygi perthynas rili fantastig gyda fy hun. O rhywyn oedd yn rili yn casau fy hun ac sut oeddwn yn edrych, fe wnes I gweithio yn galed I, or diwedd, all dweud oeddwn yn wir yn hoffi fy hun.

Y peth mwyaf, y peth gwych, y peth absolutley ffantastig oeddwn wedi dysgu ar fy siwrne oedd – YR WYF GYDA FFYDD YN FY HUN!

Gyda ffydd yn fy hun i wastad edrych ar ol fy hun, i charco fy hun, i weithio yn galed am benefit fy hun –nid oedd bwyd gyda sut apel i fi rhagor. Or blaen, roedd bwyd fel cyffir i fi. Oeddwn yn byw bywyd gyda blincers arno. Dim ond yn edrych ar fy thighs, a fy mwyd. Ond wrth gwthio fy hun allan – a byw fy mywyd, ac trio pethau newydd (fel affirmations a myfyrio) fe wnes i gweld yr oeddwn i yn berson oedd yn wir yn becso am fy hun. (Ocei – yn charu fy hun!)

Roedd y teimlad ‘na werth y byd i fi.

Ac yna, cwpwl o blynyddau yn ol, fe wnes i meddwl bod llawer o bobol yn mynd trwyddo be wnes i. Dechreuais gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru fel gynghorydd dim ‘smygu, (smoking cessation advisor) i rhoi cymorth i unigolion yn trio rhoi’r gorau i ysymygu. Ac blwyddyn yma, 2017, yr wyf yn datblygu fy fenter newydd – sef hwn – Bwyta | Hapus.

Fy nod gyda’r gwaith yma yw i rhoi cymorth i unigolion ar sut i ddod o hyd i gydbwysedd gyda bwyta – a bywyd. Mae bwyta yn hapus yn rhywbeth, rwy’n siwr, bod llawer ohonom yn gobeithio gael. Falle bod bwyta yn hapus yn edrych yn gwahanol i bob un ohonom, ond y ffordd yr wyf I yn gweld e iw:

  • Ein bod yn bwyta beth yr ydym eisiau
  • Does dim euogrwydd gyda ni dros bwyta
  • Rydym yn mwynhau ein bwyd
  • Rydym yn hapus I ddod fewn I balans naturiol rhwng y bwydydd sydd ar gael
  • Ewn canolbwyntio fwy ar iechyd nag ar pwysau
  • Ewn byth ar deiets
  • Yr unig newidiadau wnewn I’n bwyd yw ar gyfer gwella iechyd
  • Rydym gyda ffydd yn ein hun, ac ein dewisiadau
  • Rydym gyda perthynas iach gyda’n cyrff, ac yn bodlon gwrando i’r negeseuon mae’r corff yn rhoi ynglun a bwydfeydd gwahanol
  • Rydym yn neud yn siwr bod bob rhan o’n bywydau yn llawn
  • Rydym yn edrych ar hol ein hun yn llawer o ffurffiau gwahanol, dim jist trwyddo bwyd yn unig
  • Rydym yn dysgu sut I ymdopi gyda ‘stress’.

 

Mae’r rhestr yma yn rhoi llun i ni o beth sy’n bosib pan yn trafod bwyta yn hapus. Enw fy menter yw Bwyta | Hapus oherwydd y ddou beth dw i’n edrych arno, ac sut maen’t yn ymgyswllt.

Ma fy siwrne fy hun dal yn ddatblygu. Rwy’n dysgu bethau newydd trwy’r amser. Diw pethau ddim wastad yn hawdd – dyna ‘dy bywyd. Ond os allai helpu unrhwyw un i ddarganfod y hapusrwydd sy’n bosib yn bywyd a ‘da bwyd, byddai wedi cyflweni fy mhwrpas ar y phlaned bach glas yma.

Yn y misoedd nesaf, y byddai yn:

  • Rhoi ffideos i fynny i drafod yn fwy drylwy am sut i bwyta yn hapus
  • Rhoi ‘freebies’ i chi – fel siart diolchgarwch (tanysgrifiwch yn y colofn yn y dde i gael mynediad!)
  • Cynnal gweithdau Bwyta Hapus i drafod y materion holl bwysig yn ein bywydau
  • Siarad yn gyhoeddus ynglun a rol bwyd am ein iechyd

 

Cadwch i galw ‘nol. Tan y tro nesaf – bwytewch yn hapus!

 

Rebecca x

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *